Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2022
Amser:
10.03 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13060
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) John Griffiths AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS Jack Sargeant AS Peter Fox AS (yn lle Russell George AS) Laura Anne Jones AS (yn lle Paul Davies AS) |
Tystion: |
Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Nicola Edwards, Llywodraeth Cymru Dr Rachel Garside-Jones, Llywodraeth Cymru Stuart Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd, David Rees AS, yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies AS a Russell George AS; Dirprwyodd Laura Jones AS a Peter Fox AS ar eu rhan, yn y drefn honno.
2 Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
2.1 Gwnaeth y Pwyllgor graffu ar waith y Prif Weinidog ar bolisi sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol.
3 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y cytundeb cydweithio
3.1 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r Prif Weinidog ac Adam Price AS ynghylch polisi yn y Cytundeb Cydweithredu, gan ei bod ychydig dros flwyddyn ers i’r cytundeb gael ei gyflwyno.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y ddwy sesiwn.
6 Trafod cyfarfodydd yn y dyfodol
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dull ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, a chytunwyd ar ddyddiad, lleoliad a thema’r cyfarfod nesaf.